Rhowch alwad i ni ar 01633 488 000

Polisi Hygyrchedd y We Pia


 

1 Cefndir

Pia yw'r prif gwmni cyfryngau hygyrch annibynnol yn y DU – rydym yn trawsgrifio dogfennau cyfathrebu yn fformatau hygyrch ar gyfer pobl sydd â nam ar y golwg neu anabledd print. Rydym yn arbenigo mewn cynhyrchu Braille, print bras, trawsgrifiadau sain ac e-destun, ond rydym hefyd yn darparu fformatau hygyrch eraill megis; fformatau print penodol i bobl sydd â dyslecsia, a thrwy ein hamrediad o bartneriaid - cyfieithu ieithoedd, Iaith Arwyddion Prydain, a thestunau hawdd i'w darllen sydd wedi'u hanelu at bobl sydd ag anabledd dysgu.

Ar hyn o bryd mae Pia yn cynhyrchu fformatau hygyrch ar gyfer adrannau'r Llywodraeth, cwmnïau cyfleustodau, byrddau arholi a sefydliadau ariannol. Sefydlwyd y cwmni yn 1985, ac mae wedi bod yn darparu dogfennau cyfathrebu hygyrch ers 1990. Rydym yn falch o fod wedi cynnal ein statws Buddsoddwyr mewn Pobl ers 2004, a'n bod ni wedi ein hachredu gan Cyber Essentials Plus. Rydym yn aelod o fwrdd sefydlu Cymdeithas Fformatau Hygyrch y DU (UKAAF), ac yn helpu i hybu’r symudiad tuag at gyflwyno safonau yn y diwydiant ar gyfer trawsgrifio fformatau hygyrch yn y DU.

 
2 Datganiad Polisi 

Polisi Pia yw sicrhau bod ei wybodaeth a'i wasanaethau ar-lein ar gael i bawb beth bynnag yw eu hanabledd. 
Dylai pob dogfen sy'n cael ei rhoi ar y wefan i'w lawrlwytho fod mewn fformat di-batent, a rhaid ei bod wedi'i strwythuro a'i thagio'n briodol er mwyn galluogi iddi gael ei darllen mewn trefn ystyrlon gan ddefnyddio meddalwedd ddarllen y sgrin. Rhaid cyflwyno testun cyfatebol i bob darn o wybodaeth nad yw'n destunol.

3 Beth yw hygyrchedd y we

Mae hygyrchedd y we yn ymwneud â pha mor hawdd ydyw i unigolyn ddefnyddio gwefan. Mae pobl sydd ag anabledd yn wynebu rhwystrau posibl rhag cael y mynediad hwnnw. Polisi Pia yw darparu lefel o hygyrchedd sydd mor uchel ag sy'n rhesymol bosibl (gan gydnabod ei bod yn anodd iawn cyflawni hygyrchedd yn gyffredinol). Er mwyn cael gwared ar y rhwystrau posibl, mae angen i ni wybod beth yw’r rhai tebygol. 

3.1 Cynulleidfa darged 

Cynulleidfa darged Pia yw unrhyw un sy'n edrych am ddeunyddiau mewn fformatau hygyrch. Trwy ddiffiniad, bydd yn cynnwys pobl sydd ag un math o anabledd neu fwy.

 
Mae ffigurau diweddar ynghylch anableddau yn y DU yn awgrymu bod: 
• dros 11 miliwn o bobl ag un fath o anabledd; 
• o'r rhain, mae gan dros ddwy filiwn ohonynt nam ar y golwg; 
• wyth miliwn o bobl yn dioddef o ryw fath o fyddardod; 
• dros ddwy filiwn o bobl â rhyw fath o anhawster o ran dysgu, canolbwyntio neu gofio; 
• dros saith miliwn o bobl â phroblemau llythrennedd; 
• tua thraean o'r boblogaeth yn dioddef o ryw fath o liwddallineb. 

Mae problemau hygyrchedd penodol yn gysylltiedig â gwahanol fathau o anabledd, ac mae angen i ni fod yn ymwybodol o'r rhain er mwyn lleihau rhwystrau. 

3.2 Nam ar y golwg

 
Cyfrwng gweledol yw'r rhyngrwyd yn bennaf, ond mae hyn yn peri problemau i rai pobl. Mae angen cyflwyno pob darn o wybodaeth mewn ffordd y gall meddalwedd testun-i-lais ei defnyddio, megis rhaglenni darllen sgrin neu ddangosyddion Braille adnewyddadwy. Mae angen testunau sy'n cyfateb i bob darn o wybodaeth nad yw'n destunol, megis delweddau. 

Mae llawer o bobl yn dioddef o un o'r sawl math o ddiffyg lliw yn eu golwg. Mae angen gallu gwahaniaethu'n hawdd rhwng y testun a'r cefndir. Ni ddylid defnyddio lliw yn unig i gyfleu gwybodaeth. 

Mae'n rhaid bod modd newid maint testun er mwyn i'r rheiny sydd â golwg cyfyngedig allu ei ddarllen yn glir. 
Gall lluniau sy'n fflachio neu'n gwibio achosi epilepsi gyda rhai pobl, a rhaid eu hosgoi.

3.3 Nam echddygol 

Mae rhai pobl yn cael anhawster defnyddio dyfeisiau sy'n gofyn am sgiliau echddygol manwl, megis llygod traddodiadol. Mae'n rhaid bod modd gwneud pob tasg gan ddefnyddio bysellfwrdd, dyfeisiau mewnbynnu eraill, yn ogystal â llygoden. Dylid mewnosod llwybrau byr bysellfwrdd yn briodol ar gyfer adrannau allweddol o'r wefan. 

Ni ddylid gosod terfyn amser ar dasgau. 

3.4 Nam ar y clyw 

Rhaid cynnwys trawsgrifiad testun a/neu sgrindeitlo amser real gyda chlipiau fideo a sain. 

3.5 Anabledd dysgu neu wybyddol 

Rhai cyflwyno gwybodaeth yn syml ac mewn iaith briodol. 
Dylid rhoi sylw i gynlluniau lliw a allai helpu i liniaru problemau sy'n gysylltiedig â dyslecsia. Gall darparu testun-i-iaith ar draws y wefan hefyd helpu'r rheiny sy'n cael anhawster darllen testun ysgrifenedig. 

3.6 Oedran

Gall pobl hŷn brofi problemau tebyg i'r rheiny a brofir gan bobl sydd â mathau ysgafn o anableddau a grybwyllwyd yn flaenorol. Mae’r rhain yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig) i'r canlynol: 
• Golwg sy'n methu
• Dryswch pan fyddant yn dod ar draws anghysondebau o ran sut mae'r wefan wedi'i strwythuro a'i chyflwyno
• Dryswch pan fyddant yn dod ar draws pethau newydd
• Problemau gyda sgiliau echddygol manwl a chydsymudiad llaw a llygad

3.7 Natur wledig 

Efallai y bydd cysylltiad ardaloedd gwledig â'r we yn araf iawn. Wrth i wefannau ddefnyddio mwy a mwy o nodweddion, er enghraifft, defnyddio mwy o raglenni sgriptio sy'n canolbwyntio ar y cleient a fideos wedi'u hymgorffori – gall hyn wneud mynediad at wefannau yn brofiad hynod araf. Hyd nes bod gan bawb gysylltiad sy'n gallu ymdopi â'r nodweddion hyn, mae'n hanfodol caniatáu i bobl lwytho tudalennau sydd â thestun arnynt yn unig, a sicrhau nad yw adnoddau amlgyfrwng yn llwytho'n awtomatig. Dylid cadw maint tudalennau mor fach â phosibl er mwyn lleihau'r amser lawrlwytho.