Cardiau busnes Braille
Mae eich cerdyn busnes yn offeryn marchnata hanfodol. Mae'n dweud wrth gwsmeriaid posibl y peth pwysicaf y mae'n rhaid iddyn nhw ei wybod am eich cwmni a sut i gysylltu â chi. Mae meddu ar gerdyn busnes deniadol a hygyrch yn dangos ymwybyddiaeth o anghenion unigol pobl a'ch gallu i ymateb iddyn nhw.
Mae Pia yn gwneud eich cardiau busnes ar gael mewn nifer o ffyrdd, sy'n bodloni nifer o ofynion a chyllidebau!
Yr opsiynau ar gyfer eich cerdyn busnes Braille
Er ei bod yn bosibl rhoi Braille ar gardiau busnes safonol, nid yw'n cael ei ystyried yn arfer da i foglynnu Braille dros brint sydd yn aml eisoes yn fach, gan fod hyn yn effeithio ar eglurder y print ar gyfer pawb arall.
Mae'r atebion rydym yn eu cynnig fel a ganlyn:
- Label plastig tryloyw, hunanadlynol ac arno destun Braille y gellir ei roi ar gefn eich cerdyn busnes safonol cyfredol. Cyflenwir y rhain ar ddalen A4 sy'n cynnwys 14 label yr un.
- Cerdyn busnes sy'n plygu ac arno le ar gyfer testun arferol a Braille.
- Templed ar gyfer creu cardiau sy'n caniatáu i ddwy linell o Braille gael eu boglynnu yng nghanol y cerdyn heb ymyrryd â'r print.
I ofyn am ddyfynbris, y cyfan mae'n rhaid ichi ei wneud yw dweud wrthym am y fformat sy'n well gennych a faint sydd eu hangen, yn ogystal â'r testun rydych am gael ei gynnwys. Os nad ydych yn gwybod pa opsiwn sy'n well gennych, gofynnwch inni am ddyfynbris am bob un o'r tri fformat!
Cyfyngiadau testun Braille
Mae Braille wedi'i foglynnu tua phedair gwaith cymaint â thestun safonol (Arial 12pt). Mae hyn yn golygu bod testun Braille fel arfer yn cael ei gyfyngu i:
- Enw
- Cwmni
- Rhif ffôn, gwefan neu e-bost
Ar gerdyn busnes safonol, ac ar ein labeli cardiau busnes, rydym yn gallu cynnwys pedair llinell o Braille ac 13 o nodau Braille ar bob llinell. Os yw cyfeiriad e-bost neu ddolen i wefan yn rhy fawr, rydyn ni'n gallu amlapio'r testun dros ddwy neu dair llinell os oes angen, ond bydd rhaid ichi nodi prif rannau'r wybodaeth yr hoffech ei chael mewn testun Braille.
Cysylltwch â ni nawr am ddyfynbris neu i weld rhai enghreifftiau o gardiau busnes hygyrch i'ch helpu i benderfynu ar yr ateb gorau ichi.