Safonau
Er mwyn cynnal ein gwybodaeth ac arbenigedd a pharhau i wella safonau cynhyrchion a gwasanaethau cwsmeriaid, mae Pia yn aelod o sawl sefydliad proffesiynol ac mae gennym nifer o achrediadau sy'n ein helpu i gynnal a gwella safonau'r diwydiant.
Cymdeithas Fformatau Hygyrch y DU (UKAAF)
Cymdeithas Fformatau Hygyrch y DU yw'r gymdeithas sy'n gweithio i wella ansawdd ac argaeledd fformatau hygyrch yn y DU. Ei nod yw galluogi busnesau a sefydliadau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd i ddiwallu anghenion pobl sydd ag anabledd print. Mae Pia wedi cyfrannu llawer iawn o arbenigedd ac adnoddau i helpu UKAAF i osod y safonau ar gyfer fformatau hygyrch yn y DU ac mae'n falch o fod yn cwrdd â'r safonau hynny a rhagori arnynt.
Ffederasiwn Diwydiannau Argraffu Prydain (BPIF)
Ffederasiwn Diwydiannau Argraffu Prydain yw'r prif sefydliad sy’n rhoi cymorth i fusnesau yn y diwydiant argraffu, pecynnu argraffedig a chyfathrebu graffig yn y DU ac mae'n un o gymdeithasau masnach blaenllaw'r DU.
Cyber Essentials Plus
Mae hwn yn achrediad a gefnogir gan y Llywodraeth sydd â'r bwriad i fod yn broses gyfatebol i ISO 27001 ar gyfer busnesau bach a chanolig. Mae'n rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnom i wybod ein bod yn diogelu data sensitif a chyfrinachol ein cwsmeriaid yn briodol.
Buddsoddwyr mewn Pobl
Mae Buddsoddwyr Mewn Pobl yn darparu fframweithiau syml, wedi'u profi ar gyfer cyflawni gwelliant busnes trwy bobl. Mae Pia yn falch iawn o fod wedi ennill statws IIP a'i gadw ers dros ddeng mlynedd.
Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Mae'r symbol anabledd yn gydnabyddiaeth a roddir gan y Ganolfan Byd Gwaith i gyflogwyr sydd wedi cytuno i weithredu i gwrdd â phum ymrwymiad ynghylch cyflogi, cadw, hyfforddi a datblygu gyrfa gweithwyr anabl.