Rhowch alwad i ni ar 01633 488 000

Cyfarfod â'r Tîm



Audrey – Trawsgrifiwr

Cefais fy nghymhwyster Braille ym mis Tachwedd 1997 a gweithiais i gefnogi disgyblion dall a disgyblion sydd â nam ar eu golwg o fewn ysgolion prif ffrwd. Mae gennyf sgiliau llunio diagramau cyffyrddol yn ogystal â chreu deunyddiau i'w cynhyrchu mewn Braille a phrint bras. Rwyf wedi gweithio yn Pia ers 2003, fel dechreuwr Braille a phrint bras a phrawf ddarllenydd.

Carol – Trawsgrifiwr

Bûm yn gweithio yn Pia fel trawsgrifiwr ers mis Mehefin 2017. Ymunais yn wreiddiol fel gweithiwr dros dro ac yn ddiweddar deuthum yn aelod parhaol o'r tîm. Nid wyf erioed wedi gweithio gyda fformatau hygyrch o'r blaen ac rwy'n ei weld yn werth chweil iawn. Yn fy amser hamdden rwy’n mwynhau nofio, gwylio chwaraeon modur a Strictly Come Dancing. Rwyf hefyd yn mynd i'r theatr.


Catrin – Trawsgrifiwr

Dechreuais weithio i Pia fel gweithiwr print bras dros dro drwy asiantaeth ym mis Tachwedd 2016, ac yna deuthum yn aelod parhaol o'r staff ym mis Ebrill 2017. Byddaf yn dechrau ar gwrs Braille cyn bo hir a gobeithio yn 2019 y byddaf yn gallu dechrau gwaith mewn Braille a phrint bras. Rwy’n siaradwr Cymraeg rhugl ac rwyf wrth fy modd ag ieithoedd a phob math o bethau ieithyddol. Y tu allan i'r gwaith rwy’n mwynhau chwarae badminton a gemau fideo a bob hyn a hyn rwy’n cael yr awydd i wneud gweithgareddau crefft (paentio, lliwio, gwnïo, pobi a chreu gemwaith hyd yn hyn).

Craig – Trawsgrifiwr

Cyrhaeddais yn Pia fel prawfddarllenydd Braille rhan amser yn 2013, ac yna deuthum yn drawsgrifiwr Braille llawn amser yn 2015. Pan nad wyf wrth fy nesg, gallwch fel arfer ddod o hyd i fi'n bwyta bisgedi a chreu drygioni o gwmpas yr adeilad.

Dale – Cynrychiolydd Gwerthiant a Marchnata

Ers ymuno â Pia yn gynnar yn 2016 rwyf wedi rhoi cynnig ar sawl rôl yn Pia. Dechreuais yn wreiddiol fel cynorthwyydd cynhyrchu tymhorol. Ond pan sylweddolais, unwaith rydych yn rhan o dîm Pia, nid oes arnoch awydd gadael, cytunais i aros yma fel trawsgrifiwr i ddechrau. Cyn gynted ag y gwnes i ddatgelu bod gennyf gefndir addysgu a fy mod i'n gyfathrebwr da iawn, gofynnwyd i mi symud i rôl rheoli cwsmeriaid yn benodol i helpu gyda gwaith llinell gymorth addysg Pia. Ar hyn o bryd, rwy’n eithriadol o brysur yn rhoi dyfynbrisiau, casglu data a rheoli contractau ochr yn ochr â'm cydweithwyr yn ein tîm rheoli cwsmeriaid. Rwy’n edrych ymlaen at siarad â chi y tro nesaf y byddwch chi'n ffonio!

Dai – Cynrychiolydd Gwerthiant a Marchnata

Ymunais â Pia yn 2015 fel rhan o'r tîm rheoli cwsmeriaid. Yn ystod fy nghyfweliad gwnes i greu argraff ar bawb gyda fy nghefndir mewn gweinyddu a gwasanaethau cwsmeriaid, a'm gwybodaeth estynedig am ddamcaniaethau cynllwynion ac UFOs! Mae fy ngwaith yn cynnwys sicrhau bod cwsmeriaid Pia yn derbyn y gwasanaeth gorau posibl. Un o’r pethau gorau am fy swydd yw gwario arian Pia. Os oes angen pin ysgrifennu, papur Braille neu hyd yn oed bwrdd pŵl ar unrhyw un, yna fi yw'r un ar gyfer y dasg! Felly, y tro nesaf y byddwch yn ffonio, dywedwch helo.

Debra – Ysgrifenyddes y Cwmni

Rwyf wedi bod yn rhan o dîm Pia ers 1996 ac mae wedi bod yn daith a hanner. Mae nifer o bethau wedi newid ers i fi ymuno yn gyntaf, ond gan fy mod i’n gyfrifol am y cyllid, mae peth o'm rôl yn dal i fod yr un peth ag yr oedd bryd hynny. Yr hyn sydd wedi rhoi’r hwyl mwyaf i fi yn ystod y blynyddoedd diweddar fodd bynnag yw bod yn bwynt cyswllt i gwsmeriaid (yn enwedig y rhai sydd angen siarad â rhywun clyfar iawn...). Rwyf bellach wedi bod yn aelod o'r uwch-dîm rheoli am ychydig flynyddoedd, felly er nad wyf efallai yn siarad â chwsmeriaid mor aml ag yr oeddwn i'n arfer gwneud, rwyf i'n dal i gadw llygad ar y cydweithwyr sy'n gwneud hynny. Mae'n rhaid i bawb wneud fel yr wyf i'n dweud, oherwydd fi sy'n gyfrifol am y gyflogres!

Holly – Cynrychiolydd Gwerthiant a Marchnata

O'i gymharu â'm cydweithwyr a fu yma ers amser hir, rwyf i'n aelod cymharol newydd o staff ac ymunais â Pia yn ystod hydref 2017. Ymunais â'r tîm rheoli cwsmeriaid i ddechrau i helpu gyda'r broses weinyddol ar gyfer un o'n contractau mawr. Nawr fy mod i'n arbenigwr ar hynny, ac ers i'm cydweithwyr yn y tîm rheoli cwsmeriaid sylweddoli na allent ymdopi hebdda i, gofynnwyd i mi chwarae fwy o ran yn y gwaith arall sy'n ein cadw ni gyd yn brysur. Efallai na chlywch chi ryw lawer gen i, ond gallwch fod yn sicr fy mod i'n gweithio'n ddyfal yn y cefndir i wneud yn siŵr bod ein holl gwsmeriaid yn derbyn y gofal y maent yn gyfarwydd ag ef.

Isabel – Trawsgrifiwr

Ymunais â Pia ym mis Mawrth 2017 fel cynorthwyydd cynhyrchu tymhorol, ac fe ddes i'n un o'r rheini a ddaeth i Pia a phenderfynu aros yma . Cyn gynted ag y sylweddolodd fy nghydweithwyr fy mod i'n gyfforddus iawn tu ôl i feicroffon gwnaethant fy nghloi yn un o flychau sain Pia. Rwy’n llwyddo i sicrhau bod fy ngwaith yn Pia yn cyd-fynd â’m gwaith fel cantores ond mae'n debyg nad yw canu dogfennau sain yn cael ei ystyried yn arfer da... Gyda llaw, rwyf i'n dal wedi fy nghloi yn un o'r blychau sain felly pe gallech ofyn i'm cydweithwyr fy ngadael allan, byddwn i'n ddiolchgar.

Jill – Trawsgrifiwr

Cyrhaeddais yn Pia yn 2001 o gefndir addysgu. Ers yr adeg honno rwyf wedi cael nifer o rolau o'r Llinell Gymorth a Rheolwr Data i'm rôl bresennol fel trawsgrifiwr Braille. Rwy’n treulio fy niwrnodau yn trawsgrifio pob math o ddeunyddiau i Braille a phrint bras.


Lauren – Cynhyrchydd

Ymunais â Pia yn 2007 fel rhan o'r tîm cynhyrchu. Rwy’n cynhyrchu a dosbarthu'r dogfennau. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio'n rhan amser a phan nad wyf i'n gweithio yn Pia, rwy’n gofalu am fy nhri phlentyn hardd, ac rwyf hefyd yn hoffi siopa a gwario ceiniog neu ddwy!

Lynda – Cynhyrchydd

Rwyf wedi gweithio yn Pia yn ysbeidiol ers mis Mawrth 2013. Yn wreiddiol roeddwn yn gynorthwyydd cynhyrchu tymhorol ond roeddwn i’n mwynhau’r gwaith gymaint, fe wnes i wrthod gadael un flwyddyn. Rwyf wrth fy modd ag amrywiaeth y gwaith yn ardal gynhyrchu Pia a'r her o beidio â gwybod beth fyddaf yn ei gynhyrchu nesaf! Mae'n wych bod yn un o'r tîm sy'n gwneud yn siŵr bod Pia yn cyflawni'r hyn y gwnaeth addo ei wneud ar ddechrau'r broses. A rhwng tasgau cynhyrchu, rwyf hefyd yn mwynhau'r dawnsio y mae gennym le iddo yn yr adran gynhyrchu. Shhh, peidiwch â dweud wrth Sharon...


Matthew – Pennaeth Busnes

Cyrhaeddais yn 2009 i ychwanegu at y tîm cynhyrchu, gan symud yn fuan o gynhyrchu i'r tîm Braille fel dechreuwr Braille o dan hyfforddiant. Ar ôl cyfnod byr symudais dîm eto (rhywbeth a ddywedais, mae'n amlwg!) i ddod yn aelod o'r tîm print bras, ac yma rwyf wedi magu gwreiddiau yn gweithio ochr yn ochr â Peter. Ar ôl sawl blwyddyn yn ennill profiad mewn pob math o bethau hygyrch, ymunais â'r uwch-dîm rheoli ar ôl ymyrryd yn ormodol ar yr ochr dechnegol a cheisio hyrwyddo newid ledled y busnes.

Paula – Trawsgrifiwr

Pan ddechreuais i weithio yn Pia roedd gennym MS-DOS a dim rhyngwyd! Rwyf i'n dal i weithio mewn swyddfa heb unrhyw ffenestri. Mae fy rôl bresennol yn cynnwys trawsgrifio Braille, sain a diagramau cyffyrddadwy.


Peter – Trawsgrifiwr

Cefais fy nghyflogi gyntaf gan Pia am dri mis yn 1998 a gwnes i waith cyflenwi achlysurol dros dro dros yr ychydig flynyddoedd wedi hynny tan i mi ddod yn weithiwr parhaol yn 2003. Roeddwn yn aelod o weithgor print bras Cymdeithas Fformatau Hygyrch y DU (UKAAF) yn 2012, a sefydlodd ganllawiau print bras UKAAF ac rwyf bellach yn aelod o'r grŵp sydd newydd ei atgyfodi i adolygu'r canllawiau hynny. Rwyf hefyd yn aelod o grŵp golygyddol ‘Format Matters’, cylchgrawn UKAAF. Gan arbenigo mewn mwyseiriau a mwydro, caf fy nghyhuddo weithiau o fod yn amlsillafog. Gallaf ddweud yn bendant nad wyf yn dioddef o 'hippopotomonstrosesquipedaliophobia'

Sara – Gweinyddwr y tîm rheoli cwsmeriaid

Rwyf wedi gweithio fel gweithiwr dros dro i Pia dros y blynyddoedd ond cefais fy nghyflogi yn ddiweddar ar sail barhaol. Mae fy rôl yn cynnwys marchnata, rheoli presenoldeb Pia ar y cyfryngau cymdeithasol, llunio'r cylchlythyr misol, bod yn hyrwyddwr llesiant yn ogystal ag unrhyw beth arall maen nhw'n fy ngweld i'n ddefnyddiol ar ei gyfer yn y swyddfa. Y tu allan i'r gwaith rwy’n treulio fy amser yn rhedeg ar ôl fy nhair merch ifanc a'u hamserlenni cymdeithasol prysur. Er mwyn ymlacio rwy’n mwynhau gweithgareddau crefft (rwy'n hoff iawn o wau ar hyn o bryd) a phobi cacennau blasus!!!


Sharon Williams – Rheolwr Gyfarwyddwr

Cyrhaeddais yn Pia yn 1999 yn was bach cyffredinol, a nawr fy mod i'n rheolwr gyfarwyddwr, does dim wedi newid! Llwyddais i ddringo’r ysgol drwy ymyrryd, holi cwestiynau, gofyn am welliannau a mynd ar nerfau pawb yn gyffredinol. Rwy’n treulio fy niwrnodau yn marchnata, bod yn strategol, bod yn greadigol a dysgu! Mae fy nghydweithwyr yn aml yn pendroni beth rwy’n ei wneud bob dydd, felly gobeithio byddan nhw'n darllen hwn a dod o hyd i'r ateb...


Steven – Cynhyrchydd

Ymunais â thîm cynhyrchu Pia nôl yn 2014 ac rwyf i'n dal i fwynhau gwneud pethau dotiog. Nid oes dau ddiwrnod yr un peth yn ein huned brysur iawn. Ambell waith mae'n ddeunydd addysgol, yna mae'n fwydlenni bwytai a'r funud nesaf mae'n gardiau busnes a labeli Braille. Rwyf wedi dysgu llawer yn Pia megis rhedeg peiriannau argraffu digidol, a defnyddio technoleg ac rwyf hyd yn oed wedi dysgu llythrennau a rhifau Braille. Ac, yn ddiweddar, rwyf hefyd wedi dysgu sut i chwarae gêm bŵl dda!

Tad – Trawsgrifiwr

Dechreuais yn Pia ym mis Mehefin 2015 fel cynorthwyydd cynhyrchu. Fodd bynnag, pan ddaeth fy noniau ym maes technoleg a'm gallu fel arlunydd electronig i'r amlwg, cefais fy llusgo'n sydyn draw at fy nesg trawsgrifio fy hun. Y dyddiau hyn, rwyf hefyd yn treulio llawer o amser mewn blwch sain yn Pia yn darllen ac yna'n creu dogfennau sain. Rwyf hefyd wedi bod yn gyfrifol am greu opsiwn lleferydd synthetig Pia yn y swît sain a gwneud yn siŵr nad yw ein hallbwn yn swnio'n robotig! Yn ychwanegol at hyn i gyd, rwyf hefyd yn un o'r bobl hynny mae cydweithwyr yn troi ato pan fod boglynnwr Braille yn creu trafferthion. Ryw ddydd, bydd gen i swydd 'normal'...



Braille Printing

Braille

Over 20 years experience in braille transcription services and high quality, professionally presented braille printing & embossing.

Read More

Braille

Large Print

Large Print

Large print documents professionally reformatted ensuring your large print collateral presents a consistent and professional brand image.

Read More

Large Print

Audio

We transcribe your documents to multiple audio formats to allow you to communicate to customers who have difficulty accessing print.

Read More

Audio

Cliciwch yma i danysgrifio i'n cylchlythyrau MagPia misol, sy'n rhoi'r diweddaraf i chi am bopeth sy'n ymwneud â Pia.

Gellir gweld rhifyn diweddaraf ein cylchlythyr yma - MagPia