Amdanom ni
Ein gweledigaeth:
Pia yw'r cynhyrchydd cyfryngau hygyrch annibynnol mwyaf blaenllaw yn y DU.
Mae'r rhan hon o'n gwefan yn sôn amdanom ni, sut rydym wedi cyflawni'r cyfan rydym wedi'i wneud a sut rydym yn bwriadu parhau i wella ein gwasanaethau.
Cenhadaeth
Ein cenhadaeth yw cynhyrchu fformatau hygyrch o'r safon uchaf, sydd wedi'u prisio'n gystadleuol a'u cyflenwi mewn da bryd, gan sicrhau bod ein cwsmeriaid a'n defnyddwyr terfynol yn fodlon.
Gan arwain drwy esiampl, byddwn yn cyfrannu at y gymdeithas drwy’r ffyrdd canlynol:
codi safonau'r diwydiant
creu mwy o ymwybyddiaeth o'r problemau sy'n effeithio ar bobl â nam ar eu golwg
gweithio mewn ffordd gyfrifol o ran yr amgylchedd.
Byddwn yn ymddwyn yn broffesiynol ac yn gydwybodol i sicrhau bod:
ein cydweithwyr yn derbyn ein cymorth
ein cwsmeriaid yn hapus
Pia yn llwyddiannus
Addewid Pia
PARCH
Cyfrifoldeb
Anogaeth
Cymorth
Positifrwydd
Empathi
Ystyriaeth
Gwaith Tîm