Rhowch alwad i ni ar 01633 488 000

Sain

Mae darparu eich dogfennau mewn fformat sain yn caniatáu ichi gyfathrebu'n effeithiol â'ch cwsmeriaid sy'n ddall neu’n rhannol ddall nad ydynt yn gallu cael mynediad at braille neu fformatau print bras.Mae hefyd yn bosibl y bydd fformat sain o fudd i bobl sydd ag anawsterau dysgu neu ddyslecsia, neu’r rheiny sy'n cael darllen yn anodd.  

Trawsgrifiadau Sain Proffesiynol

Mae ein stiwdios recordio sain mewnol yn cael eu staffio gan drawsgrifwyr profiadol, sy'n gallu trawsgrifio eich llythyron, cylchgronau, newyddlenni, biliau cyfleustodau, cyfriflenni a rhagor i'r fformatau sy'n well gan eich cwsmeriaid. Gellir darparu dogfennau gorffenedig ar CD, tâp, cof bach USB neu mewn ffeil MP3 yn barod i'w lanlwytho i'ch gwefan.

Mae'r holl ddogfennau sain yn cael eu pecynnu a'u labelu â'ch brand corfforaethol, gan sicrhau eich bod yn cynnal eich delwedd gyda’ch cwsmeriaid sydd â nam ar eu golwg. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth dosbarthu uniongyrchol i anfon eich dogfennau'n uniongyrchol at eich cwsmeriaid, gan sicrhau eu bod yn cyrraedd yn brydlon.



Beth mae'r broses trawsgrifio sain yn ei gynnwys?

Mae proses trawsgrifio sain dda’n cynnwys pedwar cam allweddol:

  • Adolygu'r ddogfen i nodi strwythur priodol ac i nodi unrhyw destun cyfeirio ychwanegol sydd ei angen,
  • Darllen y ddogfen yn un o'n bythau gwrthsain pwrpasol
  • Golygu a chynhyrchu'r ffeil sain derfynol i sicrhau bod y ddogfen yn swnio cystal ag y dylai
  • Dylunio'r celfwaith i greu dogfen orffenedig sy'n cyd-fynd â delwedd gorfforaethol y ddogfen wreiddiol.

Y prif benderfyniad y bydd yn rhaid ichi ei wneud yw penderfynu a hoffech i'r ddogfen gael ei thrawsgrifio mewn llais dynol neu lais synthetig. Mae Pia wedi gwneud ymchwil i'r amrediad eang o leisiau synthetig sydd ar gael ac wedi dewis y rhai o’r ansawdd gorau. Nid yw pob dogfen yn addas i’w chyflwyno mewn llais synthetig, ond gall cydweithwyr yn Pia roi cyngor ichi ynghylch eich dogfen pan fyddwch yn cysylltu â ni.

Cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth am sut y gall ein gwasanaeth trawsgrifio sain helpu eich busnes.

Braille Printing

Braille

Over 20 years experience in braille transcription services and high quality, professionally presented braille printing & embossing.

Read More

Braille

Large Print

Large Print

Large print documents professionally reformatted ensuring your large print collateral presents a consistent and professional brand image.

Read More

Large Print

Cliciwch yma i danysgrifio i'n cylchlythyrau MagPia misol, sy'n rhoi'r diweddaraf i chi am bopeth sy'n ymwneud â Pia.

Gellir gweld rhifyn diweddaraf ein cylchlythyr yma - MagPia