Pia yw'r prif ddarparwr fformat hygyrch annibynnol yn y DU. Rydym yn arbenigo mewn cynhyrchu fformatau argraffu hygyrch,gan gynnwys braille, print bras, trawsgrifiad sain,print hawdd ei ddarllen a labeli cyffyrddadwy, yn ogystal â darparu gwaith rheoli prosiect a phopeth arall y bydd ei angen ar sefydliad, er mwyn diwallu anghenion unigolion sydd ag anabledd print.
Gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad o gyflwyno datrysiadau cyfathrebu ac argraffu arloesol a hygyrch i sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat, mae Pia yn ymrwymedig i'ch helpu i sicrhau bod eich busnes yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth cydraddoldeb sy'n ymwneud â darparu fformatau hygyrch.
Mae nifer o'r staff yn aelodau o UKAAF (Cymdeithas Fformatau Hygyrch y DU) ac mae gan Pia gynrychiolaeth hefyd ar fwrdd yr UKAAF, sy'n sicrhau bod Pia nid yn unig yn cadw at arferion gorau a safonau cytunedig y diwydiant, ond ei fod hefyd yn cyfrannu at wella ansawdd a chysondeb ar draws y diwydiant yn gyffredinol.
Rydym yn ymfalchïo yn ein profiad, ein gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cwsmer a'n dulliau datrys problemau, a byddem yn falch iawn o allu helpu eich sefydliad i gyfathrebu'n effeithiol gyda'ch cwsmeriaid sydd ag anabledd print. Ffoniwch neu e-bostiwch ni i drafod eich gofynion.
01633 488000 post@pia.co.uk
Ymholiad cyflym