Arbenigwyr Cyfathrebu Hygyrch
Mae Pia wedi datblygu enw da am ddarparu fformatau cyfathrebu hygyrch sy'n eich helpu i gyfathrebu'n effeithiol â'ch holl gwsmeriaid.
Fel rhan o'n gwasanaeth o ansawdd uchel gallwn argymell a darparu’r fformat hygyrch mwyaf priodol i'ch sefydliad. Mae tîm rheoli cwsmeriaid Pia wedi'i hyfforddi i gynnig cyngor cadarn, creadigol a phragmataidd i sefydliadau sydd efallai heb gomisiynu fformatau hygyrch o'r blaen. Mae Pia yn darparu amrediad o opsiynau fformat hygyrch gan gynnwys:
- Print bras hygyrch - ar gael mewn nifer o fformatau unigol all fod o fudd i gwsmeriaid sy'n rhannol ddall neu sydd ag anawsterau dysgu, problemau darllen corfforol, neu ddyslecsia.
- Sain - fformat a all fod yn addas i gyfathrebu â phobl sy'n rhannol ddall ond sydd efallai'n methu defnyddio Braille, neu gyda phobl sydd efallai â phroblemau arall, megis problemau llythrennedd.
- Braille - - mae'r fformat hwn ond yn addas pan ofynnwyd amdano yn benodol gan ddefnyddiwr terfynol. Fodd bynnag, dyma'r unig fformat sy'n cynnig mynediad annibynnol at gyfathrebu ysgrifenedig i'r defnyddiwr terfynol.
- Ffeiliau electronig - gyda mwy o ddefnydd o dechnoleg, mae darparu cyfathrebu ysgrifenedig mewn ffeil electronig yn rhoi rhyddid i'r defnyddwyr terfynol ddewis sut y maent yn cael mynediad i'r ddogfen. Fodd bynnag, os defnyddir technoleg cyrchu er mwyn cael mynediad i'r ddogfen, mae'n rhaid iddi gael ei fformatio a’i strwythuro’n briodol i ganiatáu i’r defnyddiwr ddod o hyd i'w ffordd o amgylch y ffeil. Gall trawsgrifwyr Pia sicrhau bod gan eich dogfen yr holl nodweddion gofynnol sy’n cyd-fynd â thechnoleg cyrchu.
Mae Pia hefyd yn gweithio gyda sefydliadau partner i gynnig amrediad ehangach o fformatau hygyrch.
Hawdd ei ddarllen
Mae fformat hawdd ei ddarllen yn ddull amgen sy’n cynnwys geiriau a lluniau, sydd wedi'i gynllunio i wneud gwybodaeth yn fwy hygyrch ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Gall fformat hawdd ei ddarllen hefyd fod o fudd i bobl sydd â phroblemau gyda'r cof neu i'r rheini nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.
I weld enghraifft o ddogfen hawdd ei darllen
cliciwch yma.
. I sicrhau ei haddasrwydd, mae pob dogfen hawdd ei darllen yn cael ei hadolygu gan bobl sydd ag anabledd dysgu cyn bod y ddogfen yn cael ei chymeradwyo. Mae hyn yn golygu bod trawsgrifio i fformat hawdd ei ddarllen fel arfer yn cymryd yn hirach na thrawsgrifio i fformatau amgen eraill.
Os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn â'n gwasanaethau hawdd eu darllen neu am ddyfynbris cysylltwch â ni.
Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Am ddogfennau sydd ar gael ar-lein, efallai y bydd angen i chi ystyried ychwanegu dehongliad Iaith Arwyddion Prydain. Mae Iaith Arwyddion Prydain nawr yn iaith swyddogol yn y DU. Er ei bod wedi'i seilio ar Saesneg, mae nifer sylweddol o wahaniaethau yn y modd y gallai ymadrodd neu frawddeg cael ei mynegi mewn Iaith Arwyddion Prydain. Am y rheswm hwn, mae'n cael ei hystyried yn ddigon gwahanol i gael ei hystyried yn iaith ar wahân. Gall Pia sicrhau eich bod yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl drwy ddarparu fideo sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain i gyd-fynd â dogfennau pwysig ar eich gwefan.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r amrediad llawn o fformatau hygyrch y mae Pia yn eu cynnig cysylltwch â ni.