Labeli Braille a Chyffyrddadwy
Mae labeli Braille tryloyw hunan-ludiog yn eich galluogi i osod Braille ar eich pecynnau neu ddogfennau ar unwaith mewn modd sy'n gost-effeithiol. Gallwn ddarparu amrywiaeth o feintiau sy'n addas ar gyfer anghenion gwahanol, a phob un ar yr un plastig o ansawdd uchel wedi’i wneud o ffynonellau arbennig. Mae plastig Pia yn rhagori’n sylweddol ar ofynion yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd , sy'n golygu bod y dotiau Braille yn aros yr un fath hyd yn oed pan fydd y tymheredd yn newid yn sylweddol ac o dan bwysau trwm.
Dyma rai enghreifftiau o'r amrediad eang o ddefnyddiau ar gyfer ein labeli, sticeri a marcwyr Braille a chyffyrddadwy.
Cardiau Busnes Hygyrch
Mae'r sticeri Braille yn berffaith ar gyfer eu gosod ar gefn cardiau busnes safonol, sy'n eu gwneud yn hygyrch ar unwaith ar gyfer defnyddwyr Braille, gan roi neges i'ch darpar gwsmeriaid am eich ymrwymiad i ddiwallu eu hanghenion.
Dogfennau
Mae labeli Braille sy'n dweud wrth eich cwsmeriaid bod gwybodaeth ar gael mewn fformatau amgen yn sicrhau eich bod yn cyrraedd cymaint o ddarpar gwsmeriaid â phosibl.
Pecynnau/Pecynnau Fferyllol
Mae labeli Braille Pia wedi cael eu defnyddio mewn modd effeithiol iawn ar becynnau fferyllol lle mae labelu clir yn hollbwysig, ond gellir eu defnyddio ar unrhyw fath o becynnau oherwydd, o’u cymharu ag eraill, maent yn para'n hynod dda. Os bydd angen taflen sampl o labeli Braille arnoch er mwyn cael cymeradwyaeth i'ch cynnyrch gadewch i ni wybod ac fe ddarparwn daflen o labeli Braille i chi yn rhad ac am ddim.
Labelu ar gynnyrch hygyrch
Mae labeli Braille tryloyw hefyd yn cael eu defnyddio yn rheolaidd ar gasetiau sain, cryno ddisgiau, disgiau meddalwedd a chardiau adnabod sy'n cael eu dosbarthu i bobl ddall a phobl sy'n rhannol ddall.
Botymau gweithredu
Wedi eu torri i'r maint cywir, mae ein labeli Braille yn berffaith i’w rhoi ar fotymau gweithredu ar beiriannau, er enghraifft, y peiriant coffi yn y gwaith, neu'r peiriant golchi yn y cartref. Mae gwydnwch y labeli Braille yn golygu eu bod yn gallu cael eu defnyddio mewn nifer o leoliadau yn y cartref neu'r swyddfa.
Enw'r Labeli | Mesuriadau (mm) | Nifer o labeli ar bob taflen |
Taflen A4 Llawn | 210 x 296 | 1 |
Pedair llinell hir | 40 x 100 | 14 |
Cerdyn Busnes | 40 x 83 | 14 |
Dwy linell hir | 20 x 100 | 28 |
Dwy linell ganolig | 20 x 85 | 28 |
Dwy linell fach | 20 x 60 | 42 |
Un llinell ganolig | 10 x 90 | 56 |
Os nad yw eich maint eich label Braille wedi'i restru yma, rydym hefyd yn darparu Braille wedi'i argraffu ar daflenni A4 a fydd naill ai’n cael eu gorffen â llaw gennych chi neu gennym ni. Os ydych yn bwriadu defnyddio nifer fawr o labeli Braille, gallwn hefyd drefnu bod maint label newydd yn cael ei greu ar eich cyfer.
Cysylltwch â ni am gyngor ar ba label Braille sydd fwyaf addas ar gyfer eich anghenion.