Hanes
Sefydlwyd Pia ym 1985 fel cwmni cysodi cydweithredol, yn dylunio a chynhyrchu platiau argraffu.
Y prif gontract cyhoeddi cyntaf oedd cyhoeddi llawlyfr In Touch y BBC a oedd yn cyd-fynd â rhaglen Radio 4 i bobl â nam ar eu golwg. Roedd hyn yn her sylweddol oherwydd bod angen cyhoeddi'r llawlyfr ar ffurf Braille, print bras a sain ar yr un pryd, a oedd yn torri tir newydd yn hanes cyhoeddi’r DU.
Tyfodd Pia a daeth yn gwmni cyfyngedig, Gwasg Pia Cyf, ym 1992, gan ddatblygu’r feddalwedd cyfieithu Braille, Braille Maker. Daeth yn feddalwedd cyfieithu Braille flaenllaw yn y DU gan sefydlu rôl Pia fel gwerthwr meddalwedd Braille a boglynwyr, yn ogystal â chynnig cefnogaeth dechnegol ar gyfer eu defnyddio. Yn y cyfnod hwn hefyd, sefydlodd Pia swyddfa Braille fach, yn cyfieithu a chynhyrchu dogfennau Braille.
Arweiniodd ein henw da fel cwmni cynhyrchu Braille o safon uchel at aelodaeth o Awdurdod Braille y DU (BAUK), Cymdeithas Cynhyrchwyr Braille y DU (UKABP), Cydffederasiwn Gwasanaethau Gwybodaeth Trawsgrifiedig (COTIS) a Ffederasiwn Diwydiannau Argraffu Prydain (BPIF). Ar ddiwedd y nawdegau, trefnwyd sawl cynhadledd 'Better Braille' gan Pia hefyd, yn y gobaith o hyrwyddo safonau uwch o fewn y diwydiant.
Heddiw, mae Pia yn falch o gael enw da o fewn y diwydiant ac i fod â chyswllt agos â Chymdeithas Fformatau Hygyrch y DU (UKAAF) a ddisodlodd BAUK, UKABP a COTIS. Rydym yn parhau i weithio'n galed i wella safon ac argaeledd fformatau hygyrch yn y DU. Rydym yn cynnig ystod eang o fformatau hygyrch i lawer o gyrff mawr a bach wrth gynnal gwasanaeth cwsmeriaid da. Ond, rydym yn hynod falch o fod yn gyfrifol am fersiynau Braille a phrint bras sydd at ddeunydd addysgol yn genedlaethol, sy'n cynnig y cyfle gorau posibl i blant â nam ar eu golwg yng Nghymru a Lloegr fynegi eu galluoedd.
Mae Pia yn parhau i gynllunio am newid a buddsoddi yn ei dyfodol fel cwmni trawsgrifio mwyaf blaenllaw y DU sy'n cynnig fformatau hygyrch i bawb.