Print Bras yn gwneud Cyfathrebu Hygyrch
Mae fersiynau print bras o'ch dogfennau argraffedig yn sicrhau bod eich dulliau cyfathrebu ysgrifenedig mor hygyrch â phosibl.
Mae print bras yn fformat hygyrch sydd o fudd i'ch cwsmeriaid sydd â nam ar eu golwg a gall hyd yn oed helpu pobl ag anableddau print eraill megis dyslecsia. Mae gwasanaeth trawsgrifio print bras Pia yn darparu dogfennau mewn ffont mwy o faint er mwyn eu gwneud yn haws i’w darllen, gan gyflwyno’r cynnwys yn y ffordd orau posibl er mwyn adlewyrchu cyflwyniad proffesiynol y ddogfen wreiddiol.
Fformatau Hygyrch Print Bras Proffesiynol ac o Ansawdd Uchel
Rhaid rhoi’r un gofal a sylw i greu dogfennau print bras hygyrch o safon ag y gwneir ar gyfer fformatau hygyrch eraill megis braille, sain
Nid yw cynhyrchu fersiwn print bras o ddogfen yn fater o wneud y testun yn fwy yn unig. Mae defnyddio teip mwy yn golygu bod angen ail-fformatio a golygu'r ddogfen gyfan er mwyn sicrhau bod y print bras yn gyson â delwedd broffesiynol eich brand.
Mae trosi eitemau fel tablau, graffiau a diagramau yn gallu bod yn her wrth greu dogfen print bras, ac mae angen naill ai golygu, lleihau neu gyflwyno gwybodaeth mewn ffordd wahanol er mwyn gwneud y defnydd gorau o'r gofod ar y dudalen.
Wrth drawsgrifio eich dogfen yn brint bras, rydym yn dilyn ac yn rhagori ar ganllawiau Cymdeithas Fformatau Hygyrch y DU, sef safonau cyfredol y diwydiant yn y DU. Rydym hefyd yn sicrhau bod eich dogfen print bras yn cyfateb i’r print safonol o ran ansawdd a golwg, sy'n dangos eich ymrwymiad i’ch cwsmeriaid rhannol ddall.
Cysylltwch â ni os hoffech fwy o wybodaeth neu ddyfynbris ar gyfer ein hatebion fformat hygyrch print bras.