Datganiad Polisi Preifatrwydd Pia
Mae Pia (y cyfeirir atynt fel "ein" neu "ni") yn parchu eich preifatrwydd. Mae'r Datganiad Polisi Preifatrwydd hwn yn disgrifio'r ffyrdd yr ydym yn casglu gwybodaeth oddi wrthych ac amdanoch, ynghyd â beth rydym yn gwneud gyda'r wybodaeth, fel eich bod yn gallu penderfynu darparu'r wybodaeth i ni neu beidio. Wrth brynu ein cynnyrch neu wasanaethau, neu wrth gael mynediad i'n gwefan, rydych yn cytuno gyda'r Datganiad Preifatrwydd hwn yn ogystal ag unrhyw gytundebau eraill y gallai fod gennym gyda chi.
Datganiad Polisi Preifatrwydd
1. Casglu eich gwybodaeth bersonol
Efallai bydd y wybodaeth yr ydym yn ei chasglu yn wybodaeth bersonol, fel eich enw, gwybodaeth gyswllt a gwybodaeth benodol sy'n ymwneud â’r gwasanaethau yr ydym yn eu prisio neu'n eu darparu i chi. Byddwn yn casglu'r wybodaeth hon oddi wrthych ar adegau gwahanol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:
pan fyddwn yn cyfathrebu gyda chi fel cwsmer neu ddarpar gwsmer;
pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan;
pan fyddwch yn derbyn dyfynbris a byddwn yn symud ymlaen gyda phrosiect.
2. Defnyddio eich gwybodaeth bersonol
Efallai byddwn yn defnyddio gwybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch i wneud y canlynol:
darparu’r cynnyrch a’r gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt;
rheoli'r berthynas gyda chi fel cwsmer a darparu cymorth i chi;
dadansoddi ac ymchwilio i’ch defnydd o'ncynnyrch neu wasanaethau, neu eich diddordeb ynddynt;
cysylltu gyda chi trwy e-bost, ffôn a/neu ddyfeisiau symudol ynglŷn â chynnyrch neu wasanaethau yr ydych wedi’u comisiynu gennym, neu sydd efallai o ddiddordeb i chi;
dilysu eich cymhwyster i gyfleusterau credyd;
Nid ydym yn rhannu gwybodaeth bersonol gydag unrhyw drydydd parti heb ganiatâd penodol gennych chi.
3. Ein datgeliad o wybodaeth bersonol amdanoch i unrhyw drydydd parti
Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol amdanoch gyda sefydliadau partner ac is-gontractwyr sydd yn cynnal gwasanaethau ar ein rhan. Mae trefniadau is-gontract Pia fel arfer yn ddarostyngedig i gytundeb cyfrinachedd a bydd y cytundeb wedi cael ei gytuno gyda chi fel rhan o gomisiynu'r gwasanaeth.
Efallai y byddwn yn rhannu eich data gydag unrhyw gyd-fenter neu endid arall o dan reolaeth gyffredin neu gaffaelwyr trydydd parti. Byddem yn sicrhau bod yr endidau eraill hyn yn anrhydeddu'r Datganiad Preifatrwydd hwn. Efallai y byddwn yn caniatáu i ddarpar gaffaelwr neu bartner uno adolygu ein cronfeydd data, er y byddem yn cyfyngu ar eu defnydd a’u datgeliad o'r data hwn yn ystod y cyfnod diwydrwydd ac yn eu cyfarwyddo i ddefnyddio'r data yn gyfrinachol.
Efallai y byddwn yn rhannu eich data yn ôl yr angen gan orfodwyr y gyfraith, swyddogion y llywodraeth, neu drydydd parti arall yn unol â gorchymyn llys, neu broses gyfreithiol arall neu ofyniad sy'n berthnasol i'n cwmni. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich data pan fyddwn yn credu, yn ôl ein disgresiwn, bod datgelu'r wybodaeth bersonol yn angenrheidiol i atal niwed corfforol neu i adrodd am weithgaredd anghyfreithlon a amheuir.
Nid ydym yn defnyddio unrhyw drydydd parti mewn gwledydd eraill ble mae'r gyfraith ar ddefnyddio gwybodaeth bersonol yn llai llym nac yn y DU.
4. Ein mesurau diogelwch
Mae gan ein systemau fesurau diogelwch ar waith i helpu i ddiogelu gwybodaeth o dan ein rheolaeth rhag y perygl o ddinistr damweiniol neu anghyfreithlon, colled ddamweiniol, addasiad neu ddatgeliad neu fynediad heb awdurdod. Mae systemau gwybodaeth Pia wedi'u hachredu i lefel Cyber Essentials Plus .
5. Ein defnydd o gwcis a dolenni
Mae ein tudalennau gwe yn defnyddio "cwcis". Mae cwcis yn ffeiliau testun yr ydym yn eu gosod yn eich porwr cyfrifiadurol i storio eich dewisiadau. Nid yw cwcis, ar ben eu hunain, yn datgelu eich cyfeiriad e-bost nac unrhyw wybodaeth bersonol arall sy’n gallu eich adnabod heblaw eich bod yn dewis darparu'r wybodaeth hon i ni trwy, er enghraifft, danysgrifio i'n cylchlythyr misol. Fodd bynnag, unwaith yr ydych yn dewis cyflwyno gwybodaeth bersonol ar y wefan, gall y wybodaeth hon gael ei chysylltu â’r data sydd wedi ei storio yn y cwci. Defnyddir cwcis i ddeall defnydd o'r safle ac i wella cynnwys y safle. Efallai y defnyddir cwcis hefyd i gynnig cynnyrch neu wasanaethau i chi. Mae gennych nifer o ddewisiadau mewn perthynas â rheoli’r cwcis ar eich cyfrifiadur. Mae pob prif borwr yn caniatáu i chi flocio neu ddileu cwcis o'ch system. I ddysgu mwy am eich gallu i reoli cwcis, edrychwch ar y nodweddion preifatrwydd yn eich porwr.
Efallai y byddwn yn creu dolenni i wefannau arall. Byddwn yn gwneud ymdrech resymol i sicrhau ein bod ond yncreu dolenni i safleoedd sy'n cwrdd â safonau tebyg ar gyfer cynnal hawl pob unigolyn i breifatrwydd. Fodd bynnag, efallai y bydd gan nifer o safleoedd eraill nad ydynt yn gysylltiedig â’n cwmni neu nad ydynt wedi eu hawdurdodi gennym, ddolenni sy'n arwain i'n safle. Ni all ein cwmni reoli'r dolenni hyn ac nid ydym yn gyfrifol am unrhyw gynnwys sy'n ymddangos ar y safleoedd hyn. Gan nad yw ein gwefan yn rheoli polisïau preifatrwydd unrhyw drydydd parti, rydych chi'n ddarostyngedig i arferion preifatrwydd y trydydd parti hwnnw. Anogir chi i ofyn cwestiynau cyn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol i eraill.
6. Y wybodaeth bersonol yr ydym yn cadw amdanoch
Byddwn ond yn cadw'r wybodaeth bersonol sydd ei hangen i ymgysylltu â chi fel cwsmer. Os hoffech i ni waredu'r data hwnnw, dylech ein hysbysu ar ddiwedd y prosiect yr ydym yn ei gwblhau ar eich rhan. Byddwn hefyd yn cadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol cyhyd â bod angen er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol, datrys anghydfodau, a gorfodi ein cytundebau.
7. Diweddaru eichgwybodaeth bersonol a’ch mynediad iddi
Gallwch gael mynediad rhesymol i’ch gwybodaeth bersonol yn rhad ac am ddim trwy wneud cais i ni trwy ddefnyddio'r wybodaeth gyswllt a ddarperir isod.
8. Newidiadau i'n datganiad preifatrwydd
Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn destun newid. Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Mai 2018. Os ydym yn gwneud newidiadau i'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn, byddwn yn diweddaru'r dyddiad y cafodd ei newid ddiwethaf.
9. Cysylltu â ni
Rydym yn croesawu unrhyw ymholiadau, sylwadau neu geisiadau a allai fod gennych am y Datganiad Polisi Preifatrwydd hwn. Peidiwch ag oedi rhag cysylltu âni trwy ddefnyddio'r ffurflen gyswllt yma Os byddai'n well gennych ysgrifennu atom ein cyfeiriad yw Pia, Uned 42 Clos John Baker, Parc Diwydiannol Llantarnam, Cwmbrân NP44 3AW. Os hoffech gael trafodaeth bersonol gyda ni, ffoniwch 01633 488000 os gwelwch yn dda.